Great Orme Tramway

Datganiad Mynediad

Cyrraedd yno

Mewn Car

Mae digon o le parcio yng nghanol tref Llandudno ar gyfer Gorsaf Fictoria. Prin iawn yw lle i barcio wrth Orsaf Fictoria oherwydd ffyrdd cul a pharcio i drigolion lleol. Gellir gollwng ymwelwyr tu allan i Orsaf Fictoria (Church Walks).

Nid oes unrhyw gyfleusterau parcio wrth yr Orsaf Hanner Ffordd.

Mae Gorsaf y Copa yn agos at faes parcio’r Copa sydd wedi ei darmacio sy’n cynnig digon o lefydd parcio gwastad yn agos at yr orsaf gyda nifer o ofodau parcio ar gyfer ymwelwyr ag anableddau.

Ar Gludiant Cyhoeddus

Mae yna wasanaeth bws cyhoeddus i’r copa – mae Bws Arriva Rhif 26 yn mynd bob awr ac yn gadael o’r safle bws y tu allan i Ormo Lounge ar hyd Gloddaeth Avenue. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth gywir ar wefan Traveline Cymru. Sylwer nad oes gwasanaeth bws ar ddydd Sul nac ar Ŵyl y Banc.

Hygyrchedd

Y Swyddfa Docynnau a phlatfform tram Gorsaf Fictoria

Mae grisiau ger mynedfa’r orsaf, y bydd teithwyr yn eu defnyddio i gyrraedd y swyddfa docynnau.

Gall pobl sy’n defnyddio cadeiriau olwyn a phramiau ddod i mewn i’r orsaf drwy’r Hen Ffordd (Old Road).

Mae meinciau ar y platfform ar gyfer teithwyr sy’n aros am y tram.

Mynediad i Gerbydau’r Tram

Rhaid dringo i fyny tri gris serth i gyrraedd y mynediad i’r tramiau. Gall staff gynorthwyo unigolion ar y cerbydau os oes angen. Mae cerbydau’r tramiau yn agored i’r elfennau, nid oes ffenestri ar y cerbydau felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwisgo dillad addas.

Wrth gamu oddi ar y cerbyd yn yr Orsaf Hanner Ffordd bydd mynediad i’r tram nesaf ar rodfa lydan. Mae seddi ar gael wrth i chi aros am eich tram.

Cadeiriau olwyn

Dim ond lle i 2 gadair olwyn neu 2 bram a geir ar bob tram. Os bydd eich tram yn llawn yna gofynnir yn garedig i chi adael eich cadair olwyn yng Ngorsaf Fictoria. Fel arall, efallai bydd yn rhaid i chi aros am y tram nesaf.

Yn anffodus, ni ellir caniatáu cadeiriau olwyn/sgwteri trydan oherwydd dyluniad ac adeiladwaith Fictoraidd a hanesyddol y Tram. Fodd bynnag, gellir gadael y rhain yn ddiogel ar y platfform wrth i chi fwynhau eich taith yno ac yn ôl ar y tram; bydd staff yn eich helpu i storio eich eiddo. Bydd eiddo personol yn cael ei adael ar eich menter eich hun.

Pramiau

Dim ond lle i 3 bram sydd ar bob tram. Os bydd ei tram yn llawn efallai bydd yn rhaid i chi aros am y tram nesaf.

Mae’n rhaid tynnu babanod allan o’u pramiau/cadeiriau gwthio a rhaid i oedolyn sy’n eistedd ofalu amdanynt ar eu glin.

Cŵn

Mae croeso i gŵn ar dennyn deithio ar y tramiau. Caiff cŵn cymorth deithio am ddim, ond codir ffi fechan ar gyfer cŵn eraill.

Cyfleusterau

Dim ond yn yr Orsaf Hanner Ffordd a’r Ganolfan Ymwelwyr ar y Copa y ceir cyfleusterau toiled hygyrch i unigolion mewn cadeiriau olwyn.

Mae dolen wrando ar gael yn y Swyddfa Docynnau yng Ngorsaf Fictoria.

Canolfan Ymwelwyr y Copa

Gellir cael mynediad at y Ganolfan ar hyd ramp yn ardal y blaengwrt.

Seddi Blaengwrt y Copa

Mae meinciau ar y blaengwrt, gyda byrddau picnic a mwy o feinciau yn yr ardal gyfagos.

Cysylltwch â ni os oes angen mwy o wybodaeth arnoch:

Ffôn: (01492) 577877
E-bost: ymholiadautramffordd@conwy.gov.uk