Croeso i Dramffordd Llandudno ...
Taith mewn steil
Mae Tramffordd y Gogarth wedi swyno teithwyr ers iddi agor gyntaf ar Orffennaf 31ain 1902. Yn ei oes roedd yn wyrth peiriannegol, a heddiw Tramffordd y Gogarth ydi'r unig system dramiau cebl sy'n dal i weithredu ar ffyrdd cyhoeddus Prydain.
Cymrwch seibiant ar y ffordd i fyny i edrych ar arddangosfa'r Orsaf Ganol, lle gewch chi gyfle i ddysgu ychydig o hanes hynod y Dramffordd cyn mynd yn eich blaen ar weddill y daith wych i'r copa.
Dyma gyfle i brofi ffordd o deithio sy'n fwy na 100 mlwydd oed, a hynny yn y cerbydau gwreiddiol, pob un wedi ei adnewyddu'n ofalus a'i enwi ar ôl un o'r saint. Mae'r Dramffordd i gyd wedi ei adnewyddu ac yn barod am gan mlynedd arall o wasanaeth.
- Gwybodaeth i Deithwyr
- Hanes y Dramffordd
- Gwybodaeth i Ysgolion
- Sut mae hi'n gweithio
Ar ben y Gogarth

Mae cymaint o bethau i'w gweld yma - Mae'r golygfeydd o gopa'r Gogarth 679 troedfedd (207m) uwchben lefel y môr yn drawiadol - Eryri ac Ynys Môn ar yr un llaw ac Ynys Manaw, Twr Blackpool ac Ardal Y llynnoedd ar y llall.
Cymaint o bethau i'w darganfod yma - Mae hanes a byd natur y Gogarth yn unigryw ac yn rhyfeddol. Cadwch olwg am ddau math o löyn byw nad ydynt i'w cael yn unman arall, y geifr Kashmir gwyllt a'r blodau prin.
Beth am fentro i'r mwynfeydd copr rhyfeddol neu i'r hen gaer, y ddau'n dyddio o'r oesoedd Celtaidd? Beth am fynd i weld olion Oes y Cerrig neu eglwys Sant Tudno o'r 6ed ganrif? Neu wneud dim mwy na mwynhau'r awyr iach a'r harddwch.
Cysylltwch â ni
Gorsaf Fictoria, Rhodfa'r Egwlys,
Llandudno,
LL30 1AZ.
Ffôn. 01492 879306
E-bost. tramwayenquiries@conwy.gov.uk