Rydym bellach ar gau. Hwyl fawr tan y tymor nesaf!
Tramffordd y Gogarth ydi’r unig system dramiau cebl sy’n dal i weithredu ar ffyrdd cyhoeddus Prydain ac mae hi wedi bod yn swyno ymwelwyr o bell ac agos ers iddi agor ar 31 Gorffennaf 1902.
Mae’r dramffordd yn dringo i fyny rhyw filltir (1500m) i Barc Gwledig a Gwarchodfa Natur y Gogarth. Mae’r daith unigryw yn cychwyn yng Ngorsaf Victoria a gallwch gymryd seibiant ar y ffordd i fyny i edrych ar arddangosfa’r Orsaf Hanner Ffordd, lle gewch chi gyfle i ddysgu ychydig o hanes hynod y dramffordd a gweld peirianneg Oes Fictoria. Bydd yn rhaid i chi newid tram yn yr Orsaf Hanner Ffordd cyn mynd yn eich blaen ar weddill y daith wych i’r copa.
Ar ddiwrnod clir, fe allwch chi weld cyn belled ag Ynys Manaw, Blackpool ac Ardal y Llynnoedd!
Dyma gyfle i brofi ffordd o deithio sy’n fwy na 100 mlwydd oed, a hynny yn y cerbydau gwreiddiol, pob un wedi ei adnewyddu’n ofalus a’i enwi ar ôl sant.